Rydyn ni eisiau edrych ar beth yw tlodi tanwydd, beth mae’n ei olygu i bobl a pha help sydd ar gael i leihau tlodi tanwydd.
Beth yw Tlodi Tanwydd?
Tlodi tanwydd yw pan fydd aelwyd yn methu fforddio gwresogi eu cartref i dymheredd digonol.
Yn Lloegr amcangyfrifir bod 10.3% o aelwydydd wedi profi tlodi tanwydd yn 2018 (tua 2.40 miliwn o aelwydydd).
Yng Nghymru roedd 155,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae hynny’n cyfateb i 12% o’r holl aelwydydd.
Ffactorau sy’n arwain at Dlodi Tanwydd
- Incwm uchel
- Prisiau tanwydd uchel
- Effeithlonrwydd ynni gwael
- Prisiau tai anfforddiadwy
- Tai rhentu preifat o ansawdd gwael
- Bod â dyledion eraill
- Newid annisgwyl i amgylchiadau
Y gwirionedd trist am y sefyllfa yw bod llawer o bobl yn gorfod penderfynu a ddylen nhw fwydo’u hunain neu wresogi eu cartrefi.
Rhai ystadegau!
- 32,000 – Nifer cyfartalog y gormodedd o farwolaethau a brofir yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth. Mae mwy o bobl yn marw oherwydd cartrefi oer nag sydd oherwydd alcohol, Clefyd Parkinson, neu ddamweiniau traffig
- 142,280 – Nifer y gormodedd o farwolaethau a brofwyd yn Lloegr ers 2011 [ffynhonnell]
Ble gallwch chi gael help
Taliad Tanwydd y Gaeaf (ar gael yng Nghymru a Lloegr)
Os cawsoch eich geni ar 5 Hydref 1954 neu cyn hynny gallech chi dderbyn rhwng £100 a £300 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi.
I gael gwybod faint a sut i’w hawlio, ewch i wefan y llywodraeth yma.
Taliad Tywydd Oer (ar gael yng Nghymru a Lloegr)
Mae taliad ychwanegol ar ben Taliad Tanwydd y Gaeaf, sef Taliad Tywydd Oer.
Byddwch chi’n derbyn y taliad hwn os yw’r tymheredd ar gyfartaledd yn eich ardal chi wedi’i gofnodi fel sero gradd Celsius neu’n is 7 diwrnod yn olynol, neu os oes disgwyl i hynny ddigwydd yn ôl y rhagolygon.
Byddwch yn derbyn £25 am bob cyfnod 7-diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.
Bydd y cynllun Taliadau Tywydd Oer yn parhau o 1 Tachwedd 2020 tan 31 Mawrth 2021.
I gael rhagor o wybodaeth am y lwfans hwn, ewch i wefan y llywodraeth yma.
Gostyngiad Cartref Cynnes (ar gael yng Nghymru a Lloegr)
Nid yw’r gostyngiad cartref cynnes ar gael i bawb, a’i nod yw cynorthwyo’r cwsmeriaid ynni mwyaf agored i niwed: Gallech chi dderbyn gostyngiad o £140 ar eich bil trydan ar gyfer gaeaf 2020 i 2021 o dan y Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes.
Ni fydd yr arian yn cael ei dalu i chi – mae’n ostyngiad untro ar eich bil trydan, rhwng mis Medi a mis Mawrth.
Mae 2 ffordd o gymhwyso ar gyfer y Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes:
- rydych chi’n derbyn elfen Credyd Gwarantedig Credyd Pensiwn – dyma’r ‘grŵp craidd’
- rydych chi ar incwm isel ac yn bodloni meini prawf eich cyflenwr ynni ar gyfer y cynllun – dyma’r ‘grŵp ehangach’
Sylwch fod gan wahanol gyflenwyr ynni wahanol feini prawf cymhwysedd, felly dylech wirio gyda’ch darparwr ynni.
Newid i Ddarparwr rhatach
I sicrhau eich bod chi’n cael y fargen orau ar gyfer eich cyflenwad ynni, dylech fod yn gwirio’ch tariffau ynni bob blwyddyn. Edrychwch ar ganllaw’r ‘Money Savings Expert’ ynghylch newid cyflenwr ynni yma.
Grantiau
Os ydych chi’n cael trafferth talu bil neu os ydych chi wedi mynd i ddyled gyda chwmni ynni, mae’n bosib y bydd eich cyflenwr ynni yn gallu eich helpu. Efallai byddwch yn gallu gwneud cais am grant gan ymddiriedolaeth elusennol i helpu gyda’r ôl-ddyledion neu glirio eich dyled. Cliciwch ar y dolenni i gael rhagor o wybodaeth ynghylch cymhwysedd a sut mae cyflwyno cais.
- Ymddiriedolaeth Ynni British Gas
- Cronfa Ynni npower
- Cronfa Galedi Scottish Power
- Cymorth dyledion ac ynni Ovo
- Cronfa Ynni E.on
- Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid EDF Energy
- Cronfa Ynni Bulb
Cysylltwch â’n tîm cynghori ar 0300 123 7015 os bydd angen cymorth arnoch chi i gyflwyno’r cais.
Grant Cartrefi Gwyrdd (Lloegr)
Beth yw’r Grant Cartrefi Gwyrdd?
Gall perchnogion tai a landlordiaid yn Lloegr wneud cais am daleb tuag at gost gosod gwelliannau gwresogi carbon isel ac effeithlon o ran ynni mewn cartrefi, a gallai hynny helpu i arbed hyd at £600 y flwyddyn ar filiau ynni.
Bydd y llywodraeth yn darparu taleb am hyd at ddau draean o gost gwelliannau cymwys i’ch cartref. Uchafswm gwerth y daleb fydd £5,000. Efallai byddwch chi’n gallu derbyn lefel uwch o gymhorthdal, fydd yn talu am 100% o’r gwelliannau, os ydych chi’n berchen tŷ ac rydych chi neu aelod o’ch aelwyd yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys. Uchafswm gwerth y daleb hon yw £10,000. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan ‘Simple energy advice’ yma.
Nyth: Gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim yn y cartref (Cymru)
Ydy eich cartref yn anodd ei wresogi? Gallech chi fod yn gymwys i dderbyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn eich cartref yn ddi-dâl. Mae Nyth yn gosod boeleri, systemau gwres canolog ac inswleiddio am ddim i helpu aelwydydd incwm isel i gadw’n gynnes a lleihau cost eu biliau ynni. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Sut mae gwella effeithlonrwydd ynni
I gael awgrymiadau am sut mae gwneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni, ewch i Simple energy advice.
Awgrymiadau Arbed Ynni
I gael awgrymiadau ynghylch sut mae arbed ynni, darllenwch ganllaw’r ‘Moneysaving Expert’: ‘Energy Myth busting spend less on gas and electricity’ yma.