Beth sydd mewn enw? Sut mae ein helusen yn rhoi cynhaliaeth i bob gofalwr sy’n berthynas ar adeg pan yw cefnogaeth, diogelwch a sefydlogrwydd yn brin.
Rydym ni’n newid ein henw o Grandparents Plus i Kinship er mwyn gallu brwydro dros hawliau pob gofalwr sy’n berthynas a chefnogi mwy o bobl sydd ag angen dybryd amdanom ni mewn cyfnod o argyfwng. Dyma sut bydd hynny’n digwydd.
Beth yw gofalwr sy’n berthynas a beth yw gofal gan berthynas?
Gofalwyr sy’n berthnasau yw’r bobl sy’n camu i’r adwy – weithiau yn gwbl ddirybudd – i fagu plant rhywun arall pan fydd eu rhieni’n methu gwneud hynny. Maen nhw’n rhoi eu bywydau eu hunain o’r neilltu am y tro, ac yn ymyrryd â’u dyfodol eu hunain i dderbyn plant sydd mewn angen dybryd am sefydlogrwydd a diogelwch mewn cartref cariadus, yn aml ar adegau o argyfwng teuluol.
Mae mwy a mwy o dystiolaeth bod gwell canlyniadau i blant sy’n cael eu cadw o fewn y teulu. Ond mae gofalwyr sy’n berthnasau yn wynebu heriau aruthrol heb fawr ddim cefnogaeth. Ar adeg pan yw nifer y plant sy’n dod i ofal yr awdurdod lleol yn uwch nag ers degawdau, mae gofalwyr sy’n berthnasau yn chwarae rôl hanfodol trwy fagu a gofalu am gannoedd ar filoedd o blant.
Mae angen i ni gyrraedd pob gofalwr sy’n berthynas sydd angen cefnogaeth
Mae ein helusen – Grandparents Plus gynt, Kinship bellach – wedi bod yn cefnogi, yn cysylltu ac yn brwydro ochr yn ochr â gofalwyr sy’n berthnasau i sicrhau mwy o gydnabyddiaeth a chefnogaeth ers 2002. Mae tua hanner y gofalwyr sy’n berthnasau yn neiniau a theidiau, ond mae llawer o’r lleill yn frawd neu’n chwaer, yn anti neu’n wncwl, neu’n ffrindiau.
Mae popeth a wnawn yn cael ei lywio a’i ffurfio gan ofalwyr sy’n berthnasau, ac rydym ni wedi siarad â miloedd ohonyn nhw am sut gallwn ni roi mwy o help iddyn nhw. Rydym wedi bod yn ymwybodol bod ein henw ddim yn adlewyrchu’n gwaith, na chwaith amrywiaeth y gymuned gofal gan berthnasau.
Mae rhai gofalwyr sy’n berthnasau yn dal yn eu hugeiniau neu eu tridegau. Mae rhaid i bobl roi cynlluniau o ran eu haddysg, eu gyrfa, eu perthynas ag eraill a phethau eraill o’r neilltu dros dro, wrth iddyn nhw ymroi i fagu plant rhywun arall. Fydd rhai heb feddwl am ddechrau teulu eto, neu efallai eu bod yn dal i ddod i nabod eu plant ifanc eu hunain.
Felly mae gwahaniaeth mawr rhwng yr hyn sydd yn ein henw a beth rydyn ni’n ei wneud. Ac mae hynny’n bwysig iawn, achos mae’r dryswch yna’n ein hatal rhag cyrraedd gofalwyr sy’n berthnasau fyddai ddim hyd yn oed yn meddwl y gallem ni helpu. Mae dryswch yn golygu nad yw’r bobl sy’n gallu gwneud newidiadau yn sylweddoli beth yw graddfa gofal gan berthnasau, nac yn deall beth mae gofalwyr sy’n berthnasau yn gwneud, na pham mae angen eu cefnogi’n iawn.
Nid teimlad greddfol yw hyn. Rydym ni’n rhan annatod o’r gymuned gofal gan berthnasau, a thrwy ein rhwydweithiau helaeth o ofalwyr sy’n berthnasau, gweithwyr proffesiynol a darparwyr gwasanaeth rydym ni’n gwybod bod yna ofalwyr sy’n berthnasau ar hyn o bryd mewn angen dybryd am y gefnogaeth y gallwn ni ei rhoi, ond heb wybod am ein bodolaeth.
Rydym ni eisiau gwneud gofal gan berthnasau yn haws ei ddeall
Mae gofal gan berthnasau yn gymhleth. Mae gormod o ddryswch eisoes ynghylch beth yw gofalwyr sy’n berthnasau a beth maen nhw’n ei wneud, beth maen nhw’n cael eu galw, a pha statws sydd ganddyn nhw yn llygaid y system gyfreithiol ac awdurdodau lleol. Mae hynny’n effeithio ar y gefnogaeth gallan nhw ei hawlio a’u hawliau i barhau i ofalu am y plant sy’n dod atyn nhw. P’un a ydyn nhw’n cael eu rhoi yn nosbarth ‘gofalwyr ffrindiau a theulu’, ‘personau cysylltiedig’, ‘gwarcheidwaid arbennig’ neu ‘ofalwyr maeth sy’n berthnasau’, mae pawb ohonyn nhw’n ofalwyr sy’n berthnasau ac yn rhannu’r un profiadau, yr un heriau, yr un llawenydd a’r un brwydrau.
Dyna pam rydym ni eisiau i bawb sy’n magu plant teulu neu ffrindiau gael eu galw’n ofalwyr sy’n berthnasau. Neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd, antis ac wncwls, cefndryd, ffrindiau teulu agos. Gwarcheidwaid arbennig, pobl gysylltiedig, gofalwyr teulu neu ffrindiau. Does dim ots beth yw’r berthynas na gorchymyn cyfreithiol y plentyn – maen nhw i gyd yn ofalwyr sy’n berthnasau, ac rydym ni yma i gefnogi pawb ohonyn nhw.
Trwy’r gwaith rydym ni’n ei wneud a’r cymunedau rydym ni’n eu cefnogi, rydym ni’n rhoi hunaniaeth i ofalwyr a phlant a anghofiwyd. Rydym ni eisoes yn eu cysylltu â’i gilydd ac â ni. Ond mae’n bryd i newid. Mae angen i ni dorri trwy ein ffiniau ein hunain ac ailddiffinnio beth gallwn ni ei gyflawni. Byddwn ni’n chwyldroi’r ddealltwriaeth o ofal gan berthnasau, gan ddechrau gydag enw newydd sy’n ymgorffori’r teuluoedd rydym ni yma ar eu cyfer. Enw sy’n weladwy, yn berthnasol ac yn amhosibl ei anwybyddu. Enw sy’n arwydd o gymuned fwy pwerus a mudiad sydd o blaid newid.
Trwy newid i’r enw Kinship, rydym ni’n benderfynol y bydd gofal gan berthnasau yn dod yn rhan o iaith bob dydd pobl. Fydd dim mwy o ddryswch ynghylch beth yw gofalwyr sy’n berthnasau, yr heriau maen nhw’n eu hwynebu neu’r gefnogaeth mae arnyn nhw ei hangen.
Mae gofalwyr sy’n berthnasau a’r plant a’r bobl ifanc maen nhw’n eu caru ac yn eu magu wedi dweud bod angen y ddealltwriaeth hon arnyn nhw. Maen nhw’n galw am eglurder a chydnabyddiaeth o ran pwy ydyn nhw a beth maen nhw’n ei wneud – yn yr ysgol, yn y feddygfa, yn yr ysbyty, yn y gweithle.
Mae newid ein henw o Grandparents Plus i Kinship yn golygu sefyll ochr yn ochr â theuluoedd o berthnasau i’w gwneud yn fwy gweladwy a rhoi gofal gan berthnasau yng nghanol y llwyfan. Mae hwn yn gam hanfodol os ydym am i bob teulu o berthnasau dderbyn cefnogaeth a chydnabyddiaeth fydd yn newid eu bywydau. Mae angen i ni barhau i adeiladu ar yr hyn rydym ni eisoes wedi’i gyflawni, a rhan fawr o hynny fydd bod yno – a bod yn weladwy wrth wneud hynny – ar gyfer pob gofalwr sy’n berthynas, pwy bynnag ydyn nhw.
Rydym ni’n falch o bopeth rydym ni wedi’i gyflawni dros gyfnod o bron 20 mlynedd o frwydro dros gydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr sy’n berthnasau. Ond maen nhw’n haeddu mwy. Rydym ni’n newid ein henw nawr yn hyderus y bydd hynny’n adlewyrchu ein pwrpas a’n pobl yn well, ac yn arwydd o’n penderfyniad mai ein diben yw gwneud gofal gan berthnasau yn fater hollbwysig na fydd yn cael ei wthio i’r cyrion bellach.
Ni yw Kinship. Rydym ni yma ar gyfer pob teulu o berthnasau, ac rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chi, fel bod pob teulu o berthnasau yn cael y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth maen nhw’n eu haeddu.
Darllenwch Holi-ac-ateb