
Mae pob plentyn angen cartref cariadus. Dyna pam, pan na all rhieni edrych ar ôl plentyn, mai’r peth gorau fel arfer yw eu bod yn cael eu magu gan daid, nain, modryb, ewythr, brawd, chwaer, neu berthynas neu ffrind i’r teulu arall. Rhywun maen nhw’n ei adnabod, sy’n medru darparu’r cariad a’r sefydlogrwydd mae plant ei angen, yn hytrach na thyfu i fyny yn y system ofal. Gelwir hyn yn ofal gan berthnasau.
Mae 10,000 o blant mewn teuluoedd sydd â gofalwr sy’n berthynas ledled Cymru yn gwybod gwerth cariad. Ond mae cymdeithas yn parhau i anwybyddu a thanbrisio rôl gofalwyr sy’n berthynas mewn cadw plant gyda’r teuluoedd maen nhw’n ei adnabod ac sy’n eu caru nhw, ac allan o’r system ofal.
Rydym yn ymgyrchu yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o’r heriau mae gofalwyr sy’n berthynas yn eu hwynebu. Mae gan Lywodraeth Cymru’r weledigaeth o wella gofal cymdeithasol i blant – mae hi’n hollbwysig bod gofal gan berthnasau wrth galon eu cynlluniau. Gyda’n gilydd, mae angen i ni godi proffil gofal gan berthnasau a rhoi pwysau ar benderfynwyr i’w blaenoriaethu wrth iddyn nhw lunio’r system.
Rydym yn ymgyrchu i sicrhau bod holl ofalwyr sy’n berthynas, beth bynnag fo’u statws cyfreithiol, yn derbyn yr un gefnogaeth â gofalwyr maeth prif ffrwd (nad sy’n berthynas), gan gynnwys cefnogaeth ariannol, ymarferol ac emosiynol iddyn nhw a’r plant maen nhw’n eu magu.
Rydym yn ymgyrchu yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o’r heriau mae gofalwyr sy’n berthynas yn eu hwynebu.
Rydym yn ymgyrchu i sicrhau bod holl ofalwyr sy’n berthynas, beth bynnag fo’u statws cyfreithiol, yn derbyn yr un gefnogaeth â gofalwyr maeth prif ffrwd (nad sy’n berthynas), gan gynnwys cefnogaeth ariannol, ymarferol ac emosiynol iddyn nhw a’r plant maen nhw’n eu magu.
Mae plant sydd dan ofal gan berthnasau yn aml wedi cael dechrau caled iawn mewn bywyd. Fel y plant yn y system ofal ehangach, maen nhw wedi profi trawma, camdriniaeth ac esgeulustod, ac mae gan lawer ohonynt anghenion iechyd meddwl neu gorfforol cymhleth.
Ond er bod y plant hyn wedi profi heriau tebyg, nid yw’r rhan fwyaf o deuluoedd sydd â gofalwr sy’n berthynas yn derbyn unrhyw gefnogaeth ariannol, ymarferol nac emosiynol. Lle mae cefnogaeth ar gael, gall fod yn anodd iawn i’w gyrchu, ac anaml iawn mae’n cwrdd â holl anghenion teuluoedd sydd â gofalwr sy’n berthynas.
Cariad sy’n darparu’r gwerth gorau i blant, cymdeithas a’r economi – mae cariad ac aberth gofalwyr sy’n berthynas yn arbed miliynau o bunnau i bwrs y wlad drwy atal plant rhag mynd i mewn i ofal maeth priff frwd neu ofal preswyl. Mae dewis peidio â thrysori cariad teuluoedd sydd â gofalwr sy’n berthynas yn peryglu dyfodol miloedd o blant, ond mae hefyd yn economaidd annoeth.
GWYLIWCH STORI LISA
Mae Lisa yn ofalwraig sy’n berthynas yng Nghymru sydd wedi bod yn ymgyrchu dros newid. Dyma ei stori hi.
Gall teuluoedd sydd â gofalwr sy’n berthynas ddim aros am newid – mae gormod yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd yn barod. Mae 4 allan o 10 o ofalwyr sy’n berthynas yn dweud wrthym eu bod yn ei chael hi’n anodd yn ariannol ac mae mwy nag 1 o bob 10 yn dweud eu bod wedi rhedeg allan o fwyd yn yr wythnos ddiwethaf. Mae cariad yn rhad ac am ddim, ond dim felly magu plant.
Dim cost ariannol yn unig mae gofalwyr sy’n berthynas yn ei thalu – mae yna hefyd y gost o nosweithiau hwyr, ymddeoliadau wedi’u llenwi â gofal plant, perthnasoedd wedi’u haberthu a dyrchafiadau wedi’u colli. Mae gofalwyr sy’n berthnasau yn arwyr tawel – ac yn gweithredu o gariad. Dydyn nhw ddim yn gofyn am glod na thriniaeth arbennig, dim ond cefnogaeth gyfartal ar gyfer eu teuluoedd.
Fel cymdeithas, fedrwn ni ddim mynd ymlaen fel hyn. Mae angen i ni ailfeddwl yn llwyr sut rydym yn trysori cariad drwy gael gwared â rhwystrau a rhoi’r gefnogaeth mae gofalwyr sy’n berthnasau ei angen i gadw plant o fewn eu teuluoedd.
Dangoswch eich cefnogaeth i deuluoedd sydd â gofalwr sy’n berthynas heddiw drwy ymuno â’r ymgyrch #TrysoriEinCariad yng Nghymru – a sicrhau bod holl ofalwyr sy’n berthynas yn cael beth maen nhw ei angen i gadw plant yn y teulu ac allan o’r system ofal.
Cadwch blant o fewn eu teuluoedd. Cefnogwch ofalwyr sy’n berthnasau. #TrysoriEinCariad.
Gallwch ddarllen mwy yma am fwy o wybodaeth am ein gwaith ymgyrchu yng Nghymru.