Felly, beth sydd wedi newid?
Ein henw. Rydyn ni wedi newid ein henw o Grandparents Plus i Kinship.
Pam rydych chi wedi newid eich enw?
Achos bod Grandparents Plus ddim yn enw iawn ar gyfer pwy ydyn ni, beth rydyn ni’n ei wneud a phwy rydyn ni’n eu cefnogi. Roedd yn achosi dryswch gyda’r bobl sydd â’r angen mwyaf amdanon ni; yr holl ystod o ofalwyr sy’n berthnasau, o 18 i 80.
Fe gawson ni lawer o adborth oedd yn dangos bod llawer o ofalwyr sy’n berthnasau ddim yn meddwl ein bod ni’n berthnasol iddyn nhw, mai sefydliad i rieni-cu oedden ni. Roedd hynny’n golygu eu bod nhw’n colli cyfle i gael cefnogaeth hollbwysig a allai gynnig cyngor, gwybodaeth, cefnogaeth ariannol a chyfle i rannu eu stori a chreu cysylltiad â gofalwyr eraill sy’n berthnasau, sy’n wir yn deall eu hamgylchiadau.
Fel elusen sy’n cefnogi pob gofalwr sy’n berthynas ac yn ymgyrchu ac yn dylanwadu ar ran pawb ohonyn nhw, mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pob gofalwr sy’n berthynas yn cael y gydnabyddiaeth, y gefnogaeth a’r parch maen nhw’n eu haeddu. Mae hynny’n cynnwys gweiddi’n uchel ac yn eglur ein bod ni yma i bob gofalwr sy’n berthynas a phob teulu perthynas.
Rydyn ni’n gwybod bod gofalwyr sy’n berthnasau eisoes yn gorfod delio â sefyllfaoedd cymhleth, dryslyd ac anodd i deimlo’n ddiogel yn eu statws cyfreithiol a derbyn y gefnogaeth mae ganddyn nhw hawl i’w derbyn. Rydyn ni’n gwybod bod hawliau gofalwyr sy’n berthnasau wedi cael eu hesgeuluso dros y blynyddoedd, a bod y system ofal yn dal i godi rhwystrau ym mhob man. Rydyn ni’n gwybod bod llawer yn teimlo’n anweledig a’u bod yn cael eu camddeall, ac wrth weld y sefydliadau ar gyfer rhieni maeth, rhieni sy’n mabwysiadu a gofalwyr, mae’n ddigon teg eu bod nhw eisiau gwybod; pwy sy’n cefnogi ni?
Yn syml, mae newid ein henw yn golygu ein bod ni nawr yn glir iawn ein bod ni’n cefnogi pob gofalwr sy’n berthynas, p’un a ydyn nhw’n frodyr neu’n chwiorydd, yn antis, yn wncwls, yn berthnasau eraill neu’n ffrindiau – yn ogystal â neiniau a theidiau sy’n magu plant.
Os ydyn ni eisiau cadw teuluoedd perthynas yn gryfach a’u helpu i gael hyd i’r ffordd orau ymlaen, mae angen i ni ddileu pob rhwystr i gyflawni’r nodau hynny, ac mae hynny’n cynnwys gwneud pethau mor glir â phosib.
Rwyf fi’n un o aelodau neu gefnogwyr Grandparents Plus – oes angen i mi wneud unrhyw beth?
Dim o gwbl. Fydd dim angen i chi ailgofrestru ar gyfer unrhyw beth, na rhoi eich manylion i ni eto, y cyfan y byddwch chi’n ei weld yw ein henw newydd ar ein negeseuon e-bost, yn ein cyfryngau cymdeithasol ac wrth i ni gyfathrebu mewn ffyrdd eraill.
Pam rydych chi wedi dewis yr enw Kinship?
Mae Kinship yn dangos yn eglur ein bod ni’n elusen i’r holl ofalwyr sy’n berthnasau a theuluoedd perthynas, ac er bod llawer o ofalwyr sy’n berthnasau yn rhieni-cu, mae llawer sydd ddim hefyd. Roedd angen i ni ddangos i’r byd dros bwy rydyn ni’n sefyll.
Rydyn ni eisiau i bob gofalwr sy’n berthynas adnabod eu hunain fel gofalwyr sy’n berthnasau. Pan fydd gwahanol bobl yn rhoi enwau gwahanol arnoch chi (gwarcheidwaid arbennig, gofalwyr cysylltiedig, gofalwyr maeth sy’n berthnasau, ac felly ymlaen), mae hynny’n ychwanegu at y dryswch a’r diffyg dealltwriaeth o’ch rôl. Drwy rannu hunaniaeth, bydd gofalwyr sy’n berthnasau yn fwy gweladwy, yn anoddach eu hanwybyddu, yn gymuned fwy pwerus, ac yn fudiad sy’n gweithio i gyflawni newid.
Fel enw, mae Kinship yn fodern, yn gynnes ac yn gyfeillgar, ac eto’n gryf – fel y gofalwyr sy’n berthnasau rydyn ni’n eu cefnogi. Mae’n cynnwys anwyliaid, perthnasoedd a chyfeillgarwch – rydyn ni’n meddwl bod hynny’n ddisgrifiad da o’r hyn rydych chi’n ei wneud.
Mae’r enw’n ymarferol hefyd. Mae eisoes yn rhan o enwau ein prosiectau – Kinship Community, Kinship Connected, Kinship Response etc, felly bydd pontio i’r enw newydd yn syml, ond yn effeithiol.
Sut gwnaethoch chi ddewis yr enw yma?
Fe fuon ni’n siarad â llawer o bobl ac yn gwrando arnyn nhw. Fe ofynnon ni i ofalwyr sy’n berthnasau, staff, ein grŵp ymgynghorol ar ofal gan berthnasau, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, ein harianwyr a’n sefydliadau partner. Pan fuon ni’n siarad â gofalwyr sy’n berthnasau heblaw rhieni-cu, fe ddwedson nhw “doeddwn i ddim yn meddwl eich bod chi’n addas i fi”, ac roedd yn amlwg iawn bod ein henw yn atal pobl rhag dod o hyd i gefnogaeth.
Fe ofynnon ni i’n Cymuned o Berthnasau (Kinship Community) beth oedd eu barn nhw am yr enw newydd roedden ni’n ei gynnig, a dywedodd 87% eu bod nhw’n meddwl y byddai’n ein helpu i gyrraedd mwy o bobl â chefnogaeth ymarferol, fyddai’n newid eu bywydau. Fel y byddech chi’n disgwyl, mae amrywiaeth barn ynghylch newid ein henw i Kinship, ond mae mwyafrif llethol o’r adborth wedi bod yn gadarnhaol.
Rydyn ni’n gyffrous am y newid oherwydd rydyn ni’n credu y bydd yn ein rhoi mewn sefyllfa amlwg fel elusen genedlaethol gofal gan berthnasau i’r holl ofalwyr sy’n berthnasau. Mae’n offeryn pwysig er mwyn cyflawni ein gweledigaeth o sicrhau cydnabyddiaeth, cefnogaeth a pharch i ofalwyr sy’n berthnasau ar draws y wlad.
Faint mae newid eich enw wedi costio?
Does dim un geiniog o’r arian a ddyrannwyd ar gyfer darparu gwasanaeth wedi cael ei defnyddio i newid o Grandparents Plus i Kinship. Rydyn ni wedi gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith ein hunain yn fewnol, ac wedi ymgynghori â gofalwyr sy’n berthnasau er mwyn peidio â gorfod talu costau unrhyw asiantaeth frandiau. Mae gennym ni gyllideb fach wedi’i neilltuo ar gyfer hyrwyddo’r elusen er mwyn i ofalwyr sy’n berthnasau fedru dod o hyd i ni a chael mynediad i’r gefnogaeth angenrheidiol, ac rydyn ni wedi defnyddio ychydig o’r arian hwnnw i dalu am ddylunydd i greu ein logo newydd a’n canllaw i’r brand. Rydyn ni wedi ailddylunio’r rhan fwyaf o’n deunyddiau hyrwyddo ein hunain.
Ydy hyn yn golygu bod gofalwyr sy’n berthnasau o blith rhieni-cu yn llai pwysig i chi?
Ddim o gwbl. Mae gofalwyr sy’n berthnasau o blith rhieni-cu yn hanfodol i gymdeithas a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n deall eich anghenion penodol a byddwn ni bob amser yma i’ch cefnogi. Ac rydyn ni am sicrhau bod pob gofalwr arall sy’n berthynas, beth bynnag yw eu statws, eu perthynas neu eu sefyllfa, yn gwybod ein bod ni yma iddyn nhw hefyd.
Pan ofynnon ni i’n cymuned o ofalwyr sy’n berthnasau beth oedd eu barn nhw am ein bwriad i newid ein henw, roedd 87% yn cytuno y byddai hynny’n ein helpu i gyflawni ein nodau ac roedd 78% o’r rheiny yn neiniau a theidiau. Felly rydyn ni’n hyderus ac yn falch iawn eu bod hwythau’n cytuno bod y newid enw yn gam cadarnhaol.
“Fel gofalwr sy’n berthynas ac yn un o’r rhieni-cu, rwy’n bendant o blaid yr enw newydd cynhwysol i’r elusen, ac yn meddwl ei fod yn gam ardderchog.”
Gofalwr sy’n berthynas o blith y rhieni-cu
Ydy newid eich enw yn golygu y byddwch chi’n newid beth rydych chi’n ei wneud?
Nac ydy, ond bydd yn egluro beth rydyn ni eisoes yn ei wneud ac yn dangos yn glir ein bod ni yma i bob gofalwr sy’n berthynas. Ers bron 20 o flynyddoedd mae ein helusen wedi bodoli i gynghori, cefnogi, cysylltu ac ymgyrchu dros bob gofalwr sy’n berthynas. Bydd hynny’n parhau.
Beth am elusennau eraill ag enwau tebyg?
Un o’n hamcanion yw egluro beth yw gofal gan berthnasau, a beth mae’n ei olygu. Mae’r ffaith bod mwy o elusennau’n cydweithio i gefnogi gofalwyr sy’n berthnasau, pawb ohonynt yn defnyddio’r enw gofal gan berthnasau, yn gam cadarnhaol tuag at gyflawni hynny.
Rydyn ni wedi siarad ag elusennau eraill rydyn ni’n cydweithio’n agos â nhw am y newid i’n henw, ac mae pob sefydiad yn ymroddedig i gydweithio er lles gofalwyr sy’n berthnasau, gan gynnwys cydweithredu ar Wythnos Gofal gan Berthnasau, y Gynghrair Gofal gan Berthnasau a’r Tasglu Gofal gan Berthnasau. Byddwn ni’n parhau i gefnogi eu gwaith ac annog cyllidwyr lleol i gefnogi eu gwaith hefyd. Trwy gydweithio a chodi lleisiau gofalwyr sy’n berthnasau, byddwn ni’n gweithio er daioni ar y cyd.
Pam rydych chi’n gwneud hyn nawr?
Fe ddechreuon ni gynllunio ar gyfer newid enw nôl yn 2018, ond oherwydd pandemig y coronafeirws, rydyn ni wedi gorfod gohirio’r prosiect sawl tro. Diolch i’n harianwyr a’r 78 awdurdod lleol sy’n comisiynu ein rhaglenni cefnogi a’n gwasanaethau, rydyn ni wedi tyfu’n gyson yn ystod y tair blynedd diwethaf. Ac mae’r angen am wybodaeth a chefnogaeth yn fwy nag erioed, yn enwedig ar ôl y pandemig, sydd wedi gwneud sefyllfa llawer o deuluoedd perthynas yn anoddach fyth. Rydyn ni eisiau i bob gofalwr sy’n berthynas wybod bod ein holl gefnogaeth ar gael iddyn nhw nawr, y funud hon.
Fyddwch chi’n newid eich logo a’ch dylunio?
Rydyn ni wedi newid yr enw yn ein logo i Kinship, ac wrth gwrs byddwn ni’n ei newid ar ein holl daflenni, posteri, e-byst, cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan. Rydyn ni hefyd wedi datblygu logo y byddwn ni’n ei ddefnyddio ar gyfer ein gwaith yng Nghymru.