
Maniffesto Gofal gan Berthnasau ar gyfer Etholiad Cymru 2021:
Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ym mis Mai 2021. Bydd pobl yng Nghymru yn pleidleisio dros y rhai maen nhw am eu gweld yn rhedeg y wlad am y pum mlynedd nesaf.
Mae ein maniffesto ar gyfer Gofal gan Berthnasau yng Nghymru yn esbonio’r pedair prif flaenoriaeth yr hoffem weld Llywodraeth newydd Cymru yn ymrwymo iddynt.
Mae’r blaenoriaethau hyn yn sicrhau bod gofalwyr sy’n berthnasau yng Nghymru a’r plant maen nhw’n gofalu amdanynt yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
Rydym yn galw ar yr holl ymgeiswyr i addo eu cefnogaeth i’r canlynol:
1. Deddf Gofal gan Berthnasau
Rhaid i ofal gan berthnasau gael ei gydnabod o dan y gyfraith.
2. Cyngor arbenigol ac annibynnol
Bod gofalwyr sy’n berthnasau yn gallu cael y lwfansau a’r budd-daliadau y mae hawl ganddynt i’w derbyn.
Bod ganddyn nhw fynediad at gyngor cyfreithiol annibynnol, am ddim er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y trefniadau gofal sydd ganddynt ar gyfer y plentyn.
Bod gofalwyr sy’n berthnasau yn gallu cael eu cyfeirio at grwpiau cymorth cymheiriaid yn eu hardal leol a chael mynediad iddynt.
3. Cefnogaeth gynhwysfawr:
Cefnogaeth benodol a phersonol sy’n cyd-fynd ag anghenion pob teulu o berthnasau cyn gynted ag y gofynnir iddynt ofalu am y plentyn, cyhyd ag y bydd angen hynny arnynt.
Mae hyn yn cynnwys cymorth ariannol, cymorth un-i-un a chymorth cymheiriaid, cymorth gyda threfniadau cyswllt, blaenoriaeth o ran tai a chymorth wedi’i dargedu ar gyfer pob plentyn sy’n cael gofal gan berthynas. .
4. Rhwydwaith gwybodus a chefnogol
Bod pob asiantaeth, sefydliad a darparwr gwasanaeth yn derbyn hyfforddiant ac yn cydweithio i ddarparu ymateb integredig i heriau gofal gan berthnasau. Bydd yr ymateb yn canolbwyntio ar anghenion y plant sy’n cael gofal gan berthnasau a’u teuluoedd, cyhyd ag y bydd angen hynny arnynt.
Os ydych chi’n ofalwr sy’n berthynas yng Nghymru
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, cysylltwch â’ch ymgeiswyr lleol i ofyn iddyn nhw addo cefnogi gofalwyr sy’n berthnasau yng Nghymru.
Rydym ni wedi ysgrifennu templed e-bost y gallwch ei olygu i rannu eich profiad. Bydd y neges e-bost yn rhannu ein maniffesto ac yn gofyn iddyn nhw addo eu cefnogaeth os cânt eu hethol.
Os ydych chi’n ymgeisydd yn etholiad Senedd Cymru
Cymru sydd â’r gyfran uchaf o ofal gan berthnasau yn y Deyrnas Unedig.
Os ydych chi’n ymgeisydd, rydym ni am i chi addo cefnogi gofalwyr sy’n berthnasau a phlant sy’n cael gofal gan berthnasau yng Nghymru.