
Rydyn ni eisiau cefnogi pob gofalwr sy’n berthynas yn Lloegr ac yng Nghymru, felly rydyn ni’n buddsoddi mewn datblygu ein gwasanaethau yng Nghymru.
Mae’n wirioneddol bwysig ein bod ni’n datblygu’r gwasanaethau hyn gyda gofalwyr sy’n berthnasau yng Nghymru, a’n bod ni’n adlewyrchu eu hanghenion.
Sut gallwch chi fod yn rhan o hyn:
Os ydych chi’n ofalwr sy’n berthynas yng Nghymru:
- Llenwi arolwg
Gofynnwn i chi lenwi’r arolwg isod. Dylai gymryd rhyw 15-20 munud i’w gwblhau, a pho fwyaf o wybodaeth rydych chi’n hapus i’w rhannu, mwyaf o help fydd hynny i ni wrth bennu ffurf ein gwasanaethau.
Mae’n gwbl gyfrinachol.
I gwblhau’r arolwg yn Saesneg, cliciwch yma.
I gwblhau’r arolwg yn Gymraeg, cliciwch yma.
Os oes angen cefnogaeth arnoch chi i gwblhau’r arolwg, cysylltwch â’n tîm cynghori a chael sgwrs gyda’n hymgynghorydd Cymraeg, a fydd yn eich cynorthwyo. E-bostiwch advice@kinship.org.uk neu ffoniwch 0300 123 7015.
- Fforwm ar-lein
Mae gennym ni hefyd y dyddiad canlynol lle gallwch chi ymuno â ni ar-lein (trwy Zoom) a rhannu eich barn. Mae’r niferoedd wedi’u cyfyngu i 20 ac mae’n rhaid i chi fod yn ofalwr sy’n berthynas yng Nghymru. Cofrestrwch isod:
Dydd Iau 15 Ebrill: 10.30-11.30am.
Fformat 1 awr fydd i’r fforwm, a byddwn ni’n gofyn 4 neu 5 o gwestiynau. Byddwch chithau’n gallu ymateb ar-lein ac yn y ffenest sgwrsio (‘chat’). Bydd yr holl nodiadau’n cael eu gwneud yn ddienw.
Os ydych chi’n gweithio gyda gofalwyr sy’n berthnasau yng Nghymru:
- Cwblhau arolwg i weithwyr proffesiynol
Os ydych chi’n gweithio gyda gofalwyr sy’n berthnasau yng Nghymru (gallai hynny fod mewn awdurdod lleol, neu sefydliad trydydd sector/gwirfoddol), llenwch yr arolwg isod, os gwelwch yn dda. Mae’r arolwg yn trafod eich profiad, eich barn a’ch arbenigedd, a sut rydych chi’n gweld gwasanaethau’n datblygu ar gyfer gofalwyr sy’n berthnasau.
Mae’r arolwg yn gyfrinachol.
I gwblhau’r arolwg yn Saesneg, cliciwch yma.
I gwblhau’r arolwg yn Gymraeg, cliciwch yma.
- Fforwm ar-lein
Mae gennym ni hefyd y dyddiad canlynol lle gallwch chi ymuno â ni ar-lein (trwy Zoom) a rhannu eich barn. Gofynnir i chi gofrestru isod:
Dydd Mawrth 13 Ebrill: 10.30-11.30am.
Fformat 1 awr fydd i’r fforwm, a byddwn ni’n gofyn 4 neu 5 o gwestiynau. Byddwch chithau’n gallu ymateb ar-lein ac yn y ffenest sgwrsio (‘chat’). Bydd yr holl nodiadau’n cael eu gwneud yn ddienw.
Rydyn ni hefyd yn cynnal Rhwydwaith Gweithwyr Proffesiynol yng Nghymru bob chwarter ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda gofalwyr sy’n berthnasau ac yn dymuno rhannu arfer gorau.
Gallwch chi roi eich enw lawr i ymuno yma.