Lleoliad: Rhondda Cynon Taf (RhCT) a Merthyr Tudful – gweithio gartref gyda theithio achlysurol ar draws Cymru a Lloegr
Cyflog: £23,500 y flwyddyn
Oriau: Amser llawn (35 awr yr wythnos)
Contract: Cyfnod penodol tan fis Hydref 2021 (12 mis)
Buddion: 30 diwrnod o wyliau blynyddol plws gwyliau banc a phensiwn
Cyfrifoldeb rheolwr llinell: Na
Cyfrifoldeb rheoli cyllideb: Na
Atebol i: Rheolwr Datblygu (Cymru)
Ydych chi am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr sy’n berthnasau a’u teuluoedd yng Nghymru?
Gwybodaeth am y rôl
Rôl newydd sbon yw hon, y gyntaf o’i bath yng Nghymru i Grandparents Plus. Felly rydym ni’n chwilio am rywun sy’n gyffrous am ddatblygu ac estyn cwmpas ein gwaith yng Nghymru.
Fel rhan o’r tîm newydd Effaith a Dylunio Gwasanaeth, byddwch chi’n cydweithio’n agos â’n Rheolwr Datblygu yng Nghymru, i beilota gwasanaethau newydd ar gyfer gofalwyr sy’n berthnasau a meithrin cysylltiadau clos â’r gymuned.
Bydd ein gweithiwr prosiect newydd yn gweithio ar draws Rhondda Cynon Taf (RhCT) a Merthyr Tudful i gefnogi teuluoedd sy’n berthnasau yn eu cartrefi ac yn y gymuned, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor, a’u cyfeirio at wasanaethau lleol. Byddwch yn sefydlu ac yn cyflwyno ein gwasanaeth cymorth newydd ar gyfer gwarcheidwaid arbenng a gofalwyr eraill sy’n berthnasau.
O hwyluso grwpiau cefnogi cymheiriaid (wyneb yn wyneb ac ar-lein), recriwtio gwirfoddolwyr, cyflwyno gweithdai paratoi ar gyfer gofalwyr sy’n ystyried dod yn warcheidwaid arbennig a chyflwyno ein rhaglen gymorth Kinship Connected, byddwch chi’n darparu cynhaliaeth ac yn lleihau teimladau ynysig ac unigrwydd.
Y person sydd gennym ni mewn golwg
Rydym ni’n chwilio am weithiwr prosiect profiadol sy’n credu’n angerddol mewn gweithio gyda gofalwyr sy’n berthnasau a’r materion sy’n effeithio ar blant ar gyrion y system ofal, er mwyn trawsffurfio’r cymorth maen nhw’n ei gael.
Yn ddelfrydol, bydd gennych chi lefel dda o wybodaeth am wasanaethau a chymunedau yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) a Merthyr Tudful.
Rydym ni’n chwilio am rywun sydd â’r sgiliau rhyngbersonol a phartneriaeth i gyflawni eu rôl yn sensitif ac yn greadigol, ac sy’n gallu gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol.
Byddwch hefyd yn wir yn deall pwysigrwydd gwerthuso a phrofi ein heffaith er mwyn helpu i gefnogi twf a sbarduno mwy o godi arian a chomisiynu.
Mae natur ein gwaith yn golygu bod pethau’n gallu newid yn gyflym, felly bydd angen i chi fedru datrys problemau a chadw meddwl clir.
Bydd y rôl hon yn llawn cyfleoedd, ac rydym ni’n chwilio am rywun i fanteisio ar hynny.
Pam gweithio i ni?
Amgylchedd sy’n symud yn gyflym yw hwn, a bydd digon o gyfleoedd i roi eich syniadau ar waith er mwyn newid bywydau teuluoedd bregus er gwell. Byddwch chi’n ymuno â’r elusen ar adeg gyffrous wrth i ni fynd ati i ddatblygu ein gwasanaethau a’n cwmpas yng Nghymru, ac mae hon yn rôl allweddol yng nghyswllt tyfu ein gwasanaethau.
Mae’n bwysig i ni eich bod chi’n hapus yn y rôl hon, felly rydym ni’n gosod gwerth mawr ar ddatblygiad, a byddwn ni’n eich annog i barhau i ddysgu a hyfforddi.
Rydym ni’n dîm cyfeillgar, ac yn credu’n angerddol mewn gwneud gwaith da yn well. Os yw hynny’n swnio’n debyg i chi, beth am ymuno â ni?
Sut mae gwneud cais
I wneud cais, anfonwch CV (dim mwy na dwy dudalen) gyda llythyr cefnogi (dim mwy na dwy dudalen) i ddangos sut rydych chi’n bodloni’r fanyleb person a pham hoffech chi gael y rôl i recruitment@kinship.org.uk.
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Louise Baker yn Grandparents Plus ar 020 8981 8001 neu ar louise.baker@kinship.org.uk.
Ni fydd ymgeiswyr sydd heb gynnwys llythyr cefnogi personol yn cyrraedd y rhestr fer.
Rydym ni’n croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd ceisiadau a ddaw i law yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Dyddiad cau: 9am, dydd Llun 16/10/2020
Dyddiad cyfweld: dydd Iau w/c TBC
Gwybodaeth am Grandparents Plus – yr elusen gofal gan berthnasau
Mae gofal gan berthnasau yn cychwyn mewn argyfwng. Plant y mae eu rhieni’n methu gofalu amdanynt. Mae’n boenus, ac yn achosi braw a dryswch. I’r plentyn, gall deimlo fel petai’r byd yn dod i ben.
Yn reddfol, mae rhywun annwyl yn camu i’r bwlch – nain/taid, brawd, chwaer, modryb, ewythr neu ffrind i’r teulu. Nawr maen nhw’n ofalwr sy’n berthynas, yn magu’r plant maen nhw’n eu caru. Does dim cyfle i baratoi. Mae cynlluniau’n cael eu rhoi o’r neilltu. Mae perthnasoedd, swyddi a chynilion yn cael eu haberthu.
Yn Grandparents Plus rydym ni’n gwybod pa mor anodd gall bywyd fod i ofalwyr sy’n berthnasau. Ond rydym ni wedi gweld y pethau rhyfeddol maen nhw’n gallu eu cyflawni gyda rhywun yn eu hymyl. Gyda’r gefnogaeth gywir, mae plant sy’n cael eu magu yn nheuluoedd perthnasau yn ffynnu.
Dyna pam rydym ni’n cefnogi, yn cysylltu ac yn ymgyrchu.
I gadw teuluoedd perthnasau yn gryfach trwy eu cadw gyda’i gilydd.